readenglishbook.com » Short Story » Yr Alarch, John Harding [best young adult book series txt] 📗

Book online «Yr Alarch, John Harding [best young adult book series txt] 📗». Author John Harding



1 2 3
Go to page:
ddim yn ateb dy negesau... doeddwn i ddim wedi d’anghofio di o gwbl. Ti’n gwybod?» «Ydw. Ond...» «Ar ol y misoedd diwethaf... a phopeth sy’ wedi digwydd rhyngddon ni... yr anawsterau i gyd... Wel roedd arna’ i angen... ystyried y dyfodol.» «Rw i’n deall, cariad. Paid a phoeni. Mae pethau wedi bod yn flin iawn i ti... Mae’n ddrwg gen i. Y fi sy’ ar fai, Madlen, nid tithau. Rw’ i fel arth a’i phawen mewn trap... yn fynych iawn: rhy fynych ar ol cymaint o wallgofrwydd yn y swyddfa, a gormod o amser yn y gwindy wedyn gyda’r «bechgyn». Wedi bod yn ynfytyn hunanol; dim esgus! Dim! Maddeua fi. Ond cofia. Rwyt ti’n mor annwyl i mi... yn fwy pwysig i mi na phopeth arall yn y byd. Rw i’n gwbod hynny ers dim ond y penwythnos yma. Rw i’n dy garu di Madlen. Rw i’n syweddoli am y tro cyntaf.» Edrychais ar ei hwyneb tra cododd hi ei golwg ataf. «Yfi hefyd, rw i’n dy garu di; rw i’n ei wybod nawr. Ond mae rhywbeth arall pwysig rw i am i ti’i wybod.» Roedd ei llygaid yn llawn o ddagrau, a’i llais yn crynu. «Nid i gyfarfod busnes yr es i Frwsel... ond i... i gwrdd a rhywun... a dyn arall.»

Ac felly y treiglodd allan yr hanes i gyd i’r golwg. Ei hanfodlonrwydd arnaf fi wedi bod yn tyfu. Y dyn a gyflwynwyd iddi ddau fis o’r blaen. Eu cyfarfyddiadau dirgel. Ei phenderfyniad i dreulio penwythnos mewn gwesty gydag ef ym Mrwsel. Eto, rwyfodd roedd hen deimlad yn parhau: ffordd arall; ac, yn y funud olaf, dyna hi’n petruso ac yn troi yn ol ar drothwy y gwesty, a chael tacsi i ganol y dref. Bu hi’n rhodio yn ystod oriau ar strydoedd y ddinas, eistedd mewn caffe drwy’r rhan fwyaf o’r nos, ac, o’r diwedd, penderfynu’n araf fynd yn ol a siarad gyda fi cyn gynted a phosibl.

«Ti’n gwybod y gwirionedd nawr. Mae’n bosib ni fyddi di ddim am ’y ngweld i drachefn,» meddai hi yn dawel. «Bydda’,» dywedais «Os wyt ti am adael y gorffennol ar ol. Yfi sy’ am ddechrau bywyd newydd, gyda thi. Yn ystod y penwythnos cefais freudwyddion dieithr: o obaith da yn y dyfodol; a -pheth od iawn- roedd teimlad gen i o fod yn ddiogel dan nawdd aderyn..»
«Alarch? Fe fu’r aderyn yma’n arwydd o ffyddlondeb mewn oes a fu.» «Ie! Yn union! Pam wyt ti’n gwybod?» «Roeddwn yn breuddwydio’r un peth, fy hunan!» Fe edrychasom ar ein gilydd heb ragor o eiriau, codi a throi yn ol at y llwybr. Roedd torf o bobl yn mynd heibio: dynion, merched, parau, rhieni, tadcuod a mamguod, rhai gyda’u hwyrion; pawb yn llonydd. Roedd y bobl yn sgwrsio yn ddedwydd gyda’u gilydd. Cychwynasom gerdded ar eu hol, law yn llaw. Ymddangosai glan yr afon yn fwy hyfryd a deniadol i mi nag erioed. Cemais ymlaen yn awyddus, a theimlo Madlen wrth fy ochr yn fodlon i ddilyn yr un ffordd. Edrychais i lawr ar yr afon, ac yna yn nofio yn rhwydd o’n blaen, alarch mawr gwyn. Imprint

Publication Date: 08-04-2011

All Rights Reserved

1 2 3
Go to page:

Free e-book «Yr Alarch, John Harding [best young adult book series txt] 📗» - read online now

Comments (0)

There are no comments yet. You can be the first!
Add a comment